Ken Skates AC
 Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
15 Chwefror 2019

 

Annwyl Weinidog,

Bargeinion Dinesig a Thwf i Gymru

Ar 23 Ionawr a 31 Ionawr 2019, clywodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad dystiolaeth gan y rhai sy'n gyfrifol am ddatblygu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Bargen Ddinesig Bae Abertawe, Bargen Ddinesig y Canolbarth a Bargen Twf y Gogledd. Pwrpas y sesiynau hyn oedd dilyn i fyny ar gynnydd gyda datblygiadau y pedair Bargen ranbarthol hyn, yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor, ‘Bargeinion Dinesig ac Economïau Rhanbarthol Cymru’, ym mis Hydref 2017.

Mae'r sesiynau hyn wedi codi nifer o gwestiynau i Aelodau ynghylch cynnydd y gwahanol Fargeinion, y ffordd y cânt eu hariannu a'u gwerthuso, ac i ba raddau y mae gweithgareddau o fewn y Cytundebau yn cyd-fynd â strategaethau datblygu economaidd ehangach ar lefel Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. O gofio natur ar y cyd y Bargeinion hyn, penderfynodd y Pwyllgor ei fod am ysgrifennu at y ddwy lywodraeth i ofyn am ymatebion, fel y bo'n briodol, ar y pwyntiau canlynol:

Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae gan Fargen Ddinesig Caerdydd dargedau uchelgeisiol ar gyfer darparu swyddi ac ysgogi buddsoddiad yn y sector preifat. Dyrennir cyfran helaeth o'r Fargen gwerth £1.2 biliwn i'r Metro, gyda £495 miliwn wedi'i ddyrannu i'r ‘Gronfa

Fuddsoddi Ehangach’, a dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai'r Asesiad Gateway ond yn effeithio ar y Gronfa Fuddsoddi ehangach hon, ac o fewn hynny bydd ond yn edrych ar werthuso'r gwaith a wnaed ar y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd IQE, lle mae £38.5 wedi cael ei fuddsoddi. A all Llywodraeth y DU gadarnhau pa elfennau o'r Fargen fydd yn destun Asesiad Gateway y Gronfa Fuddsoddi gyntaf o effaith Trysorlys EM, a beth yw goblygiadau posibl Asesiad Gateway ar gyfer rhyddhau cronfeydd pellach i'r Gronfa Fuddsoddi Ehangach?

Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd mai'r nod oedd 'ailgylchu' cymaint o'r arian cyfalaf cychwynnol â phosib ond na fyddai effaith cronfeydd wedi'u hailgylchu yn cael eu hystyried yn asesiad Llywodraeth y DU o effaith y Fargen Ddinesig. A all Llywodraeth y DU egluro'r rhesymeg dros y dull hwn?

Roedd y Pwyllgor yn pryderu o glywed bod Bargen Ddinesig Caerdydd yn ei chael hi'n anodd ymgysylltu â Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu'r cynllun economaidd ar gyfer y rhanbarth. Byddai'r Pwyllgor yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i'r awgrym hwn a chlywed sut y bydd gwaith integreiddio yn gwella yn y dyfodol o ran cynllun economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a chynlluniau Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer y rhanbarth.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Nododd y Pwyllgor bwysigrwydd canlyniad llwyddiannus o adolygiadau cyfredol y Fargen a'r trefniadau llywodraethu. Bydd yn bwysig i'r Fargen gael ei hardystio'n derfynol cyn gynted ag y bo modd er mwyn atal unrhyw oedi pellach i brosiectau, y mae awdurdodau lleol eisoes yn cario risg ariannol iddynt.

Roedd y Pwyllgor yn synnu o glywed bod Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn dal i ddatblygu ei fframwaith monitro a gwerthuso a fydd yn nodi'r dull arfaethedig o werthuso effaith y Fargen Ddinesig. Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru egluro'r amserlen ar gyfer cwblhau'r maes gwaith pwysig hwn.

Bargen Twf y Gogledd

Roedd cynnydd gyda Bargen Twf y Gogledd yn galonogol gyda chyllid wedi'i gyhoeddi cyn y Nadolig, er roedd yn siomedig bod y swm yr arian a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn £100m yn llai na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol.

A all Llywodraeth y DU roi esboniad llawn o'i rhesymau dros gyhoeddi'n unochrog ymrwymiad cyllido sy'n sylweddol llai na'r £170m y gofynnwyd amdano, ac a yw'n bwriadu adolygu'r penderfyniad hwn, gan gofio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyfateb unrhyw gynnydd a wnaed ar lefel y DU?

A all Llywodraeth Cymru roi eglurhad llawn ynghylch pam ei bod wedi penderfynu cyfateb cynnig cychwynnol Llywodraeth y DU o £ 120 miliwn, yn hytrach na chynnig i ymrwymo'r £170 miliwn y gofynnwyd amdano yng nghais y Gogledd?

Yn sgil penderfyniad Hitachi i atal gwaith ar Wylfa Newydd, mae'r Pwyllgor yn awyddus i ddeall effaith hyn ar Fargen Twf y Gogledd a sut y gellid ail-flaenoriaethu prosiectau. Mae'r Pwyllgor wedi nodi ei bryderon yn gyhoeddus ynglŷn â sut y gall prosiectau eraill yn y Gogledd lenwi'r bwlch, gan fod eu heffaith wedi'i lleihau gan botensial twf Wylfa Newydd. Beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o sut mae'r penderfyniad i atal gwaith ar Wylfa Newydd yn effeithio ar yr hyn y mae'r Fargen Twf yn ceisio ei gyflawni? 

Bargen Twf y Canolbarth

Er bod gwaith wedi'i wneud i gynnig trefniadau llywodraethu ar y cyd rhwng y ddau awdurdod lleol ym Mhartneriaeth Tyfu'r Canolbarth, gwelodd y Pwyllgor fod angen gwneud llawer mwy o waith i ddatblygu a chymeradwyo achosion busnes ar gyfer Bargen Twf, gyda'r amserlenni yn cael eu disgrifio fel rhai tynn.  Er ei fod yn sicr bod cydweithredu ar lefel swyddogion yn effeithiol, nododd fod angen i hyn gael ei gyfleu drwy gyfarfodydd mwy aml ar lefel wleidyddol a sicrwydd cadarn o ymrwymiad gwleidyddol lefel uchel. Clywodd y Pwyllgor am ymdrechion i ymgysylltu â busnesau ar draws y Canolbarth ond y bydd ymgysylltu pellach yn cael ei atal tan y bydd manylion y prosiectau yn hysbys. Gallai gwendid y Canolbarth Cymru o fod â nifer fechan o gwmnïau 'angor' hefyd gynyddu'r risg o ymdrech yn cael ei ledaenu'n denau ar draws y rhanbarth heb i fudd sylweddol gael ei grynhoi.

Roedd y ddau Arweinydd Cyngor yn awyddus i weld y Fargen yn cael ei datblygu'n gynt, a chadarnhad o'r cyllid sydd ar ddod gan y ddwy Lywodraeth, yn enwedig yn sgil y buddsoddiad amser ac ymdrech a roddir wrth ddatblygu'r Fargen yn lleol. O ystyried yr adnoddau sydd eisoes wedi'u cyfeirio at ddatblygu'r Fargen, pa sicrwydd pellach y gellir ei roi o ran amserlen Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gytuno a chyhoeddi'r arian a ddyrennir i'r Fargen Twf? A yw'r ddwy lywodraeth yn fodlon bod y ddau awdurdod lleol yn gweithio'n dda gyda'i gilydd ac yn ddigon cyflym, a bod y ddau yn ymgynghori'n ddigonol â'r sector busnes neu a ellid gwneud mwy yn hynny o beth? 

Nododd y Pwyllgor y byddai Arweinydd Ceredigion yn cyfarfod â Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r broblem sef nad oedd cydweithwyr Ceredigion yn cael eu cynnwys yn ddigonol yng ngweithgareddau Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-orllewin a Chanolbarth Cymru. Bydd y Gweinidog yn nodi ymchwiliad presennol y Pwyllgor i rôl Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yng Nghymru - a yw'n gallu nodi pa gamau a gymerir i sicrhau bod y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau sy'n cwmpasu'r Canolbarth yn ystyried yn llawn yr anghenion sgiliau ar draws y rhanbarth hwnnw i gyd?

Cwestiynau cyffredin ar draws yr holl Fargeinion:

Mae'r Bargeinion ar gyfer cyllid cyfalaf, ac wrth gydnabod hynny, mae awdurdodau lleol a rhai cyrff addysg yn neilltuo ffrydiau ariannu refeniw i gefnogi'r Bargeinion ac i ddatblygu'r achosion busnes. Nododd y Pwyllgor hefyd fod ymdrechion yn cael eu gwneud i geisio cynnwys etifeddiaeth o ran hyfforddiant sgiliau yn y prosiectau buddsoddi cyfalaf. Pa mor hyderus yw Llywodraeth Cymru y bydd etifeddiaeth sylweddol yn cael ei chreu gan y cyllid cyfalaf i gyfiawnhau'r gostyngiad cychwynnol yn lleol, yn enwedig o ystyried y dull o ddyrannu cyfalaf yn raddol yn amodol ar ganlyniadau asesiadau Gateway?

Gofynnodd y Pwyllgor pa mor dda yr oedd y Bargeinion yn cyd-fynd â Chynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru a gwaith y Prif Swyddogion Rhanbarthol, a'r blaenoriaethau buddsoddi ar lefel y DU sy'n cael eu hysgogi gan y Strategaeth Ddiwydiannol. Nid oedd yr Aelodau yn gwbl fodlon bod y cysylltiadau rhwng y gwahanol strategaethau hyn wedi'u nodi'n llawn ac y gwneir y gorau ohonynt fel rhan o'r Bargeinion. Pa mor hyderus ydych chi bod y Bargeinion yn cyd-fynd â strategaethau economaidd rhanbarthol a chenedlaethol er budd mwyaf yr economïau rhanbarthol y maent yn ceisio bod o fudd iddynt?

Nodwyd bod yna botensial i brosiectau mewn un ardal Bargen hefyd ddarparu buddion i ardal sy'n cael ei chwmpasu gan Fargen arall (e.e. cyflogaeth yn y Canolbarth o ganlyniad i'r Ganolfan Gwyddoniaeth Dur ym Margen Ddinesig Bae Abertawe), ond er gwaethaf rhannu dysg rhwng yr arweinwyr Bargen amrywiol, mae gan y Bargeinion ffiniau daearyddol. A oes perygl y bydd cyflawni gweithredoedd ar lefel ranbarthol drwy Fargeinion Dinesig a Thwf yn creu 'silos twf' sy'n gweithio yn erbyn ymdrechion ehangach gan Lywodraeth Cymru, ac yn wir Llywodraeth y DU, i ysgogi twf economaidd ar lefel genedlaethol yng Nghymru, ac ar draws y DU gyfan?

Yn olaf, nododd y Pwyllgor fod ymgynghoriaeth yn Surrey wedi cael ei phenodi i gynnal adolygiad cyflym o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, a bod cwmni peirianneg rhyngwladol Americanaidd, AECOM, wedi'i gomisiynu gan Bartneriaeth Tyfu'r Canolbarth i lunio Strategaeth Economaidd ar gyfer y rhanbarth. Hoffai'r Pwyllgor ofyn i'r ddwy lywodraeth beth oedd y rhesymeg dros benodi ymgynghorwyr o'r tu allan i Gymru i wneud y gwaith hwn, a pha ystyriaeth a roddwyd i annog ceisiadau o fewn Cymru drwy'r broses gaffael?

Fel y nodwyd uchod, anfonwyd y llythyr hwn hefyd at y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Edrychaf ymlaen at eich ymateb.

Yn gywir,

 

 

 

Russell George
Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau